Hafan
 

 

 

Croeso i Monamor


Darperir Monamor gwasanaeth dan yr amodau canlynol. Os ydych yn ymweld neu’n prynu oddi ar wefan Monamor rydych yn derbyn yr amodau hyn. Darllenwch y ddogfen hon yn ofalus os gwelwch yn dda. Ar ben hyn, pan fyddwch yn defnyddio cynnyrch cyfredol Monamor neu gynnyrch newydd yn y dyfodol, yn ymweld neu’n prynu gan unrhyw fusnes sy’n gysylltiedig ag Monamor, boed hynny’n cynnwys y wefan hon ai peidio, rydych yn rhwym i amodau sy’n berthnasol i’r gwasanaeth neu’r busnes hwnnw.

Os ydych yn defnyddio’r wefan, eich cyfrifoldeb chi yw cynnal cyfrinachedd eich cyfrif a’r allweddair ac i atal mynediad anawdurdodedig i’r cyfrif a’r unrhyw weithgaredd ar eich cyfrif ac allweddair personol. Bydd angen i chi alluogi fod pob cam priodol wedi ei gymryd i sicrhau fod eich allweddair yn cael ei gadw yn gyfrinachol ac yn ddiogel. Dylid cysylltu gyda’r cwmni os oes rheswm i gredu fod unrhyw un arall yn ymwybodol o’r allweddair neu fod tebygolrwydd iddo gael ei ddefnyddio mewn ffordd anawdurdodedig.

Wrth gofrestru ar y wefan, mae angen sicrhau fod eich holl wybodaeth bersonol yn gywir ac wedi ei gwblhau. Bydd gofyn i chi hysbysu’r cwmni yn brydlon oes unrhyw newid i’r wybodaeth yma.

Mae Monamor yn cadw’r hawl i wrthod mynediad i’r wefan, terfynu cyfrif, symyd new olygu cynnwys neu ddiddymu archebion ar ddisgresiwn y cwmni.
Os bydd rhaid diddymu archeb, ni fydd unrhyw gost i’r cwsmer.

 

Fe wnawn ein gorau i sicrhau fod argaeledd y wefan yn ddi-dor a bod y trosglwyddiad yn ddiwall. Er hynny, oherwydd natur y we, nid oes modd sicrhau hyn. Mae posibilrwydd y gall mynediad i'r wefan gael ei ohirio neu ei gyfyngu o bryd yw gilydd i ganiatáu i waith atgyweirio, cynnal a chadw neu gyflwyno cyfleusterau a gwasanaethau newydd gael eu cwblhau. Ymgeisiwn I gyfyngu hyd ac amledd unrhyw ymyriad o’r fath.

Mae holl gynnwys y wefan hon megis testun, graffeg, logos, botymau eicon, delweddau, clipiau clywedol, is lwythiadau digidol, casgliadau data a meddalwedd yn eiddo i Monamor neu eu cyfranwyr. Gwarchodir y deunydd gan gyfreithiau hawlfraint ryngwladol a rhai’r Deyrnas Unedig. Mae’r holl feddalwedd a ddefnyddir ar y safle yn eiddo i Monamor neu eu cyflenwyr meddalwedd a gwarchodir hwy gan gyfeiriadau hawlfraint ryngwladol a’r Deyrnas Unedig.

 

Caniateir Monamor fynediad cyfyngedig i chwi ar gyfer defnydd personol o’r wefan hon, rhaid peidio is lwytho ( heblaw am gofnodi tudalen) nac addasu’r wefan nac unrhyw ran ohoni, oni bai y rhoddir caniatâd gan Monamor. Nid yw’r drwydded yn cynnwys unrhyw ddeunydd adwerthu na marchnata ar y wefan. Ni fydd  unrhyw is lwytho neu restru cynnyrch, disgrifiadau na phrisiau, unrhyw ddefnydd deilliannol o’r wefan neu ei chynnwys, gan gynnwys is lwytho gwybodaeth am gyfrifon a hynny er bydd masnachwyr eraill yn dderbyniol. Ni ddioddefir dulliau peiriannu data megis robots neu ddulliau eraill o beiriannu a thynnu data. Ni ddylid defnyddio unrhyw ran o’r wefan hon mewn unrhyw fodd er budd masnachol arall, heb ganiatâd ysgrifenedig gan Monamor. Ni ddylid saernïo na defnyddio dulliau saernïo er mwyn amgáu unrhyw logo â nod masnachol neu wybodaeth berchnogol arall ( cynnwys hyn ddelweddau, testun, cynllun tudalennau neu ffurf) o Monamor a’u haelodau heb ganiatâd ysgrifenedig. Mae unrhyw ddefnydd anawdurdodedig yn pennu terfyn ar yr hawl neu’r drwydded a roddir gan Monamor.

Mae gennych hawl cyfyngedig i greu hyperlink i’r tudalen cartref ar yr amod nad ydyw’r cysylltiad yn portreadu Monamor, eu cynnyrch  neu eu gwasanaethau mewn modd ffug, cyfeiliornus neu ffordd arall a fyddai’n fygythiol. Ni ddylech ddefnyddio logo Monamor nac unrhyw gynlluniau graffeg eraill o’u heiddo fel rhan o gysylltiad heb ganiatâd ysgrifenedig.

Gall ymwelwyr bostio adolygiadau neu gynnwys arall ynghyd â chynnig awgrymiadau, syniadau, sylwadau neu gynnwys arall, ar yr amod nad ydyw’r cynnwys yn anghyfreithlon, anweddus, bygythiol, difenwol, yn torri ar breifatrwydd neu’n tresmasu ar hawliau eiddo deallusol. Ni ddylai’r cynnwys fod yn niweidiol i’r trydydd dosbarth a ni ddylai gynnwys firysau meddalwedd, ymgyrchu gwleidyddol, na ddyfeisiadau masnachol. Ni ddylech ddefnyddio cyfeiriadau e-bost ffug, dynwared unrhyw berson neu enwad mewn unrhyw fodd arall. Mae Monamor yn dal yr hawl (ond nid yr orfodaeth) i dynnu neu olygu cynnwys o’r fath. Er hynny, nid ydynt yn adolygu cynnwys sydd wedi ei bostio yn rheolaidd. Os ydych yn postio cynnwys ar y wefan neu’n ymostwng defnydd, rydych chi yn caniatáu i Monamor ailddefnyddio, newid, gyhoeddi, gyfieithu, creu gwaith deilliannol ohono, dosbarthu neu arddangos y cynnwys drwy’r byd mewn unrhyw gyfrwng, a hynny’n ddi-freindal, bythol, ddi-alw’n ôl gyda’r hawliau is drwyddedu llawn.

Rydych yn caniatáu i Monamor a’i aelodau ddefnyddio’r enw a ymostyngwyd gennych chi mewn cysylltiad â’r cynnwys, os ydynt yn penderfynu hynny. Rydych yn cynrychioli ac yn gwarantu mai chi sydd berchen neu’n rheoli holl hawliau'r cynnwys yr ydych yn ei bostio ynghyd â’r ffaith fod y cynnwys yn gywir ac nad ydyw yn torri’r cytundeb hwn, nac yn achosi unrhyw niwed i berson nac enwad. Rydych hefyd yn gwarantu Monamor a’i aelodau rhag yr holl gwynion sy’n deillio o’r deunydd rydych chi’n ei gyflenwi. Mae gan Monamor hawl, ond nid yr orfodaeth i wirio, golygu neu dynnu unrhyw weithgarwch neu gynnwys oddi ar y wefan. Nid ydyw Monamor  yn gyfrifol nac yn atebol i unrhyw gynnwys a geir gennych chi na’r trydydd dosbarth.

Mae Monamor a’i aelodau yn parchu eiddo deallusol eraill. Os ydych yn credu bod eich gwaith wedi cael ei atgynhyrchu mewn modd sy’n golygu tor hawlfraint, e-bostiwch ni â’ch cwyn.

Mae Monamor a’i aelodau yn ceisio bod mor fanwl â phosib gyda’u disgrifiadau. Er hynny, nid ydyw Monamor yn gwarantu fod y disgrifiadau o’r cynnyrch neu gynnwys arall ar y wefan yn fanwl, cyflawn, dibynadwy, cyfredol nac yn ddiwall. Os nad ydyw un o gynhyrchion Monamor fel ag y disgrifiwyd ef, y cyngor gorau fyddai i chi ei ddychwelyd at y cwmni heb ei ddefnyddio.

Mae Monamor yn cyflenwi’r wefan hon ar yr amodau fel ag y gwelir hwy ac fel ag y ceir hwy. Nid ydyw Monamor yn cynnig cynrychiolaeth na gwarant o unrhyw fath sy’n gysylltiedig â sut y gweithredir y wefan, na’r wybodaeth, na’r cynnwys, na’r deunydd nac ychwaith y cynhyrchion sydd arni. Rydych yn cytuno eich bod yn defnyddio'r wefan hon fel unigolyn sy’n ymwybodol o’r peryglon. Nid ydyw gwefan Monamor yn gyfrifol am unrhyw niwed sy’n deillio o ddefnyddio’r wefan hon boed hynny’n niwed penodol, amhenodol, damweiniol neu’n niwed canlyniadol. Nid yw cyfreithiau rhai gwladwriaethau yn caniatáu cyfyngiadau ar warantau cysylltiedig, nac yn gwahardd lleihau niwed penodol. Os ydyw’r cyfreithiau hyn yn berthnasol i chi, mae’n bosib y bydd gennych hawliau ychwanegol.

Pan rydych yn ymweld â’r safle neu’n anfon e-bost, rydych yn cysylltu â ni’n electronig. Wrth wneud hyn rydych yn caniatáu derbyn cysylltiadau electronig gennym ni. Byddwn yn cysylltu â chi drwy e-bost, neu drwy bostio hysbysebion ar y wefan. Rydych yn cytuno fod yr holl gytundebau, hysbysebion, dadleuwyr a ffyrdd eraill o gyfathrebu sy’n cael eu darparu’n electronig i chwi yn cyflawni unrhyw ofynion cyfreithiol fel bod y fath ddulliau o gyfathrebu i’w cael mewn ysgrifen.

Wrth ymweld ag Monamor rydych yn cytuno mai cyfreithiau'r Deyrnas Unedig (heb ystyried egwyddorion neu wrthdaro rhwng cyfreithiau) fydd yn llywodraethu’r amodau defnyddio ac unrhyw anghydfod a fyddai’n codi rhyngoch chi ac aelodau Monamor.

Bydd unrhyw anghydfod sy’n berthnasol mewn unrhyw ffordd i’ch ymweliad ag Monamor neu’r cynnyrch fydd yn cael ei brynu yn mynd gerbron canolwyr cyfrinachol y Deyrnas Unedig, heblaw eich bod wedi bradychu neu fygwth bradychu hawliau eiddo deallusol Monamor. Mae’n bosib i Monamor fanteisio ar gymorth gorchmynnol neu fath arall o gymorth addas. Rydych chi’n caniatáu derbyn awdurdod a lleoliad unigryw yn y llysoedd. Byddai dyfarniad dan y cytundeb hwn yn cael ei arwain dan y rheolau a fyddai fynychaf yn y Deyrnas Unedig.  Bydd dyfarniad y cymrodeddwyr yn orfodol ac o bosib yn cael ei gynnig fel beirniadaeth yn Llys y Llywodraeth i’r radd flaenaf bosib dan y gyfraith gyfredol. Nid oes modd i unrhyw gymeradwywr yn unol â’r cytundeb hwn, uno â dyfarniad sy’n cynnwys unrhyw grŵp arall mewn cysylltiad â’r cytundeb hwn, boed hynny drwy ddyfarniad adrannol a’i pheidio.

 

Adolygwch ein polisïau eraill ar y wefan hon os gwelwch yn dda. Mae’r polisïau hyn yn llywodraethu eich ymweliad ag Elïau Gwdihŵ. Rydym ni yn dal yr hawl i newid y wefan a’n polisïau ac amodau defnyddio ar unrhyw adeg. Os fydd unrhyw amodau yn  annilys, di-rym neu am unrhyw reswm yn anorfod, tybied na fyddent yn effeithio ar ddilysrwydd na gorfodaeth unrhyw amodau dros ben.

Trefaris,
Rating Row,
Beaumaris,
Isle of Anglesey
LL58 8AF

Ffôn +44 (0) 1248 811359
Ffacs +44 (0) 1248 811359

Wedi ei gofrestru yng Nghymru : 6874102

 

       
  

Designed by Delwedd and Loveigloo