Ein Hynys Brydferth...
Ynys Môn yw ein cartref. Hoffem ni rannu ychydig o hud unigryw yr ynys gyda chi, lle bynnag rydych chi’n byw.
Mae Ynys Môn wedi’i lleoli oddi ar arfordir gogledd orllewinol Cymru ger mynyddoedd prydferth Eryri.
Mae Ynys Môn yn ynys sy’n llawn hanes a diwylliant, ynys sy’n llawn adnoddau naturiol, ynys sy’n llawn harddwch – tir bryniog, clogwyni dramatig, traethau tywodlyd a charegog lle mae dyfroedd clir, oer yn llifo.
Dewiswyd yr enw er mwyn cyfleu cefndir a chynhwysion y cynnyrch, ac rydym wedi defnyddio adnoddau naturiol yr ynys a’r môr o’i hamgylch er mwyn creu profiad ymdrochi moethus ac unigryw.
Rydym ni’n falch o’r hyn rydym wedi’i gyflawni. Mae’n cynhyrchion yn brydferth i edrych arnynt ac yn hyfryd i’w defnyddio.
Mwynhewch…
|